FOOTBALL ASSOCIATION OF WALES PRESS RELEASE
Cymru to face Austria in Swansea and USA in Cardiff in Euro 2020 preparation matches
Cymru will play a home double header in March against Austria and the USA in their first EURO 2020 preparation matches.
Ryan Giggs’ squad will return to the Liberty Stadium for the first time in seven years on March 27. The last friendly match played there in 2013 was in fact against Austria, where Gareth Bale and Sam Vokes scored in a 2-0 victory.
Swansea City Chairman, Trevor Birch said: “It will be great to welcome the Welsh national team back to Swansea and the Liberty Stadium after a seven-year absence.
“It’s been a fantastic few years for Wales and I’m sure the people of south west Wales and beyond will be looking forward to supporting Ryan Giggs’ team in action as they prepare for the Euro 2020 finals.’’
Cymru will face the USA at Cardiff City Stadium three days later on March 30, the first time a match will be played between the two countries in Wales. The two sides have met only once before in 2003, a game which ended in a 2-0 defeat in San Jose under the management of Mark Hughes.
Both matches in March will provide a fantastic opportunity to support the national team in their preparation for the EURO 2020 finals tournament in June. These matches will be an integral part of Ryan Giggs’ preparations as he looks to shape his team of the first pan-Europe EURO finals.
Tickets, priced £20 for adults, £10 for those aged 65+ and £5 for juniors 16 and under, will go on sale for Red Wall Members at 10:00am on January 31 and will be available to purchase via the following link – https://www.eticketing.co.uk/fawtickets-english/
Notes to Editors
Wales v Austria
– 19:45 Friday 27 March
– Liberty Stadium, Swansea
Wales v USA
– 19:45 Monday 30 March
– Cardiff City Stadium
DATGANIAD I’R WASG CYMDEITHAS BÊL-DROED CYMRU
Cymru i wynebu Awstria yn Abertawe a’r UDA yng Nghaerdydd mewn gemau paratoi Ewro 2020
Caerdydd, Cymru: 17/01/2020
O dan embargo tan 14:00 17/01/20
Bydd Cymru yn chwarae dwy gêm gartref ym mis Mawrth yn erbyn Awstria a’r UDA fel rhan o’u paratoadau ar gyfer Ewro 2020.
Bydd carfan Ryan Giggs yn dychwelyd i Stadiwm y Liberty am y tro cyntaf mewn saith mlynedd ar Fawrth 27ain yn erbyn Awstria. Yn erbyn Awstria yn 2013 oedd gêm gyfeillgar ddiwethaf Cymru yn y stadiwm, ble sgoriodd Gareth Bale a Sam Vokes mewn buddugoliaeth o 2-0.
Dywedodd Trevor Birch, Cadeirydd CPD Dinas Abertawe: “Bydd hi’n braf iawn croesawu tîm cenedlaethol Cymru yn ôl i Abertawe a’r Stadiwm Liberty am y tro cyntaf mewn saith mlynedd.
“Mae’r blynoedd diwethaf wedi bod yn rhai gwych i Gymru a rydw i’n siŵr y bydd pobl de Orllewin Cymru a thu hwnt yn edrych ymlaen at gefnogi carfan Ryan Giggs ar y cae wrth iddyn nhw baratoi tuag at rownd terfynol Ewro 2020.”
Dridiau yn ddiweddarach ar Fawrth 30, bydd Cymru yn wynebu’r UDA yn Stadiwm Dinas Caerdydd, y tro cyntaf i’r ddwy wlad gyfarfod yng Nghymru. Dim ond unwaith mae’r ddwy wlad wedi chwarae ei gilydd o’r blaen a hynny yn 2003, gyda’r UDA yn selio buddugoliaeth o 2-0 yn San Jose yn erbyn carfan Mark Hughes.
Bydd y ddwy gêm ym mis Mawrth yn gyfle gwych i gefnogi’r tîm cenedlaethol fel rhan o’u paratoadau ar gyfer rowndiau terfynol EWRO 2020 ym mis Mehefin. Bydd y gemau yma’n allweddol i Ryan Giggs a’i gynlluniau i siapio’r tîm ar gyfer y twrnamaint.
Bydd tocynnau, £20 i oedolion, £10 i oedolion dros 65 oed a £5 i blant dan 16 oed, yn mynd ar werth am 10:00 ar y 31ain o Ionawr ar gyfer Aelodau Y Wal Goch a byddent ar gael i’w prynu ar y wefan ganlynol – https://www.eticketing.co.uk/fawtickets-english/
Nodiadau Golygyddol
Cymru v Awstria
– 19:45 Dydd Gwener 27ain o Fawrth
– Stadiwm Liberty, Abertawe
Cymru v UDA
– 19:45 Dydd Llun 30ain o Fawrth
– Stadiwm Dinas Caerdydd
