Dear valued member of the football family,
I hope you are keeping safe and well.
Last week UEFA announced the decisions made by their Executive Committee regarding UEFA EURO 2020 and their European club competitions. With EURO 2020 postponed, Cymru’s EURO match schedule for 2021 is now confirmed. We are pleased to see that our matches against Switzerland and Turkey will continue to be played in Baku, now on the 12th of June and 16th of June 2021, respectively, with Rome also confirmed as the host city for Cymru’s match against Italy on the 20th June 2021. UEFA have also set the schedule for International football to return in Wales this year. Cymru Men will be expected to return to play in early September to compete in the group stage matches of the 2020/21 UEFA Nations League. We have been informed that this fixture and the further triple-header fixture dates and kick-off times will be announced by UEFA in due course. Cymru Women are expected to return to action to face Norway in an away fixture on 22nd of September for the rescheduled UEFA Women’s EURO 2022 Qualifiers, with further rescheduled fixtures available to view here. In accordance with the Welsh Government Coronavirus regulations we do expect these games to take place as they are matches of a competitive professional sport. Based on the current guidelines, they are presently anticipated to be played behind closed doors, however in these uncertain times we understand this may change. As you will know and will have again seen following the BBC Wales Euro 2016 reruns this past fortnight, Y
Wal Goch, The Red Wall, as they are affectionately known, were pivotal to the success of Cymru in the UEFA EURO 2016 Finals and have continued to be a beacon of support during our Cymru International matches since. If our matches are to be played behind closed doors, it will be with much sadness that the Red Wall will not be able to fill stadiums with the most rousing rendition of our wonderful anthem, but as detailed in my previous communication, the safety of our fans, staff and players have to stay paramount. For this the FAW will also be guided by Welsh Government and UEFA. UEFA will be providing detailed guidelines to ensure that the health of all participants to any UEFA matches will be protected when UEFA competitions resume. Further relevant updates from the UEFA decisions, that concern Welsh international teams and domestic clubs, can be viewed on the FAW website here. The FAW have continued to work with Welsh Government and Sport Wales to develop an overall approach for the return of football in Wales. We support Sport Wales’ message to remain patient during this time, as there are still many challenges to overcome before all sport in Wales can return in some capacity. Currently the Coronavirus regulations in Wales allow individuals to practice football training skills individually and the opportunity to play football with your household at home or in an open space, not in overcrowded areas. Individuals are currently also permitted to kick a football with one member of another
household in an open space as long as the individuals can keep a 2 metre distance between them at all times, in addition to ensuring robust hand hygiene practices are adhered to. To aid with football skills training, the McDonald’s and FAW Fun Football Skills videos are available on the FA Wales YouTube to help
encourage activity for children in a fun and innovative way. As many of you will know June is Pride month. This month aims to celebrate the history of the LGBTQ+ community whilst raising awareness of the issues that are still facing the community. The FAW is very proud of its partnership with Stonewall Cymru and was honoured to join the organisation in the Pride
Cymru march last August. The FAW and our leagues ensure to show support for the Stonewall Cymru initiatives such as the Rainbow laces campaign, which has been pivotal in helping foster positive attitudes towards members of the LGBTQ+ community at all levels of the sport. As noted previously, the FAW acknowledges there is more work to be done on Equality, Diversity and Inclusion in football in Wales. One element of this work is ensuring individuals from the LGBTQ+ community feel welcome and included in football across Wales and we look forward to developing our work with our partners at Stonewall Cymru to improve this.
Stay safe. Diolch,
Jonathan Ford.
Football Association of Wales CEO
Annwyl aelod gwerthfawr o’r teulu pêl-droed,
Gobeithio eich bod chi’n cadw’n ddiogel ac yn iach.
Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd UEFA y penderfyniadau a wnaed gan ei Bwyllgor Gweithredol mewn
perthynas ag Ewro 2020 UEFA a’i gystadlaethau clybiau Ewropeaidd. Gyda chystadleuaeth Ewro 2020
wedi’i gohirio, mae amserlen Ewro 2021 Cymru bellach wedi’i chadarnhau. Rydym ni’n hynod falch i weld y
bydd ein gemau yn erbyn y Swistir a Thwrci yn dal i gael eu chwarae yn Baku, bellach ar 12 a 16 Mehefin
2021, yn y drefn honno, gyda Rhufain hefyd yn cael ei chadarnhau fel y ddinas a fydd yn cynnal gêm Cymru
yn erbyn yr Eidal ar 20 Mehefin 2021.
Mae UEFA hefyd wedi pennu’r amserlen ar gyfer pêl-droed rhyngwladol eleni. Bydd disgwyl i ddynion
Cymru ddychwelyd i chwarae ddechrau mis Medi i gystadlu yng ngemau grŵp Cynghrair Cenhedloedd
UEFA 2020/21. Rydym ni wedi cael gwybod y bydd y gêm hon a dyddiadau ac amseroedd gweddill gemau’r
gystadleuaeth hon yn cael eu cyhoeddi gan UEFA maes o law. Mae disgwyl i fenywod Cymru ddychwelyd i
chwarae yn erbyn Norwy mewn gêm oddi cartref ar 22 Medi yn yr ymgyrch ragbrofol Ewro 2022 UEFA y
menywod a ohiriwyd am flwyddyn. Mae rhagor o gemau hefyd wedi’u hail-amserlennu ac i’w gweld yma.
Yn unol â rheoliadau Coronafeirws Llywodraeth Cymru, rydym ni’n disgwyl i’r gemau hyn gael eu cynnal
gan eu bod yn gemau proffesiynol a chystadleuol. Yn seiliedig ar y canllawiau cyfredol, rhagwelir ar hyn o
bryd y byddant yn cael eu chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig, ond yn y cyfnod ansicr hwn, rydym ni’n deall y
gallai hyn newid.
Fel y byddwch chi eisoes yn ei wybod, ac y byddwch chi siŵr o fod wedi’i weld wrth i BBC Wales ailddangos gemau Ewro 2016 Cymru dros y pythefnos diwethaf, roedd Y Wal Goch wrth wraidd llwyddiant
Cymru yn Rowndiau Terfynol Ewro 2016 UEFA, ac mae’r Wal wedi parhau i fod yn fflam ffyrnig o
gefnogaeth yn ein gemau rhyngwladol ers hynny.
Os bydd ein gemau yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig, bydd hi’n siom enfawr na fydd y Wal Goch yn
gallu llenwi pob stadiwm gyda’u fersiwn unigryw ac angerddol o’n hanthem hyfryd, ond fel y nodais yn fy
neges flaenorol, mae’n rhaid i ddiogelwch ein cefnogwyr, ein staff a’n chwaraewyr ddod gyntaf bob tro.
Bydd CBDC hefyd yn cael ei harwain gan Lywodraeth Cymru ac UEFA ar hyn. Bydd UEFA yn darparu
canllawiau manwl i sicrhau y bydd iechyd pawb sy’n cymryd rhan mewn unrhyw gemau UEFA yn cael ei
ddiogelu pan ddaw’r amser i gystadlaethau UEFA ailddechrau.
Mae rhagor o ddiweddariadau perthnasol am benderfyniadau UEFA, sy’n berthnasol i dimau rhyngwladol
Cymru a chlybiau domestig, ar gael ar wefan CBDC yma.
Mae CBDC wedi parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru i ddatblygu dull
cynhwysfawr ar gyfer gallu dechrau chwarae pêl-droed eto yng Nghymru. Rydym ni’n cefnogi neges
Chwaraeon Cymru i fod yn amyneddgar yn ystod y cyfnod hwn, gan fod yna lawer o heriau i’w goresgyn o
hyd cyn y gall pob camp yng Nghymru ddychwelyd i ryw raddau.
Ar hyn o bryd mae’r rheoliadau Coronafeirws yng Nghymru yn caniatáu i unigolion ymarfer sgiliau
hyfforddi pêl-droed yn unigol a’r cyfle i chwarae pêl-droed gyda’r rheiny rydych chi’n byw â nhw gartref
neu mewn man agored, ond nid mewn ardaloedd prysur. Ar hyn o bryd, caniateir i unigolion gicio pêldroed gydag un aelod o aelwyd arall mewn man agored cyhyd ag y gall yr unigolion gadw pellter o 2 fetr
rhyngddynt bob amser, yn ogystal â sicrhau eu bod yn cadw at arferion hylendid dwylo cadarn. Er mwyn
helpu gyda hyfforddiant sgiliau pêl-droed, mae fideos Sgiliau Pêl-droed Hwyl McDonald’s a CBDC ar gael ar
YouTube CDB Cymru er mwyn helpu i annog gweithgarwch i blant mewn ffordd hwyliog ac arloesol.
Fel y bydd llawer ohonoch yn ei wybod, mae mis Mehefin yn fis Pride. Nod y mis hwn yw dathlu hanes y
gymuned LGBTQ+ wrth godi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n dal i wynebu’r gymuned. Mae CBDC yn falch
iawn o’i phartneriaeth â Stonewall Cymru ac roedd yn anrhydedd ymuno â’r sefydliad yng ngorymdaith
Pride Cymru fis Awst y llynedd. Mae CBDC a’n cynghreiriau yn sicrhau ein bod yn dangos ein cefnogaeth i
fentrau Stonewall Cymru, fel ymgyrch lasys yr Enfys, sydd wedi bod yn ganolog wrth helpu i feithrin
agweddau cadarnhaol tuag at aelodau o’r gymuned LGBTQ+ ar bob lefel o’r gêm. Fel y nodwyd eisoes, mae
CBDC yn cydnabod bod mwy o waith i’w wneud ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn pêldroed yng Nghymru. Un elfen o’r gwaith hwn yw sicrhau bod unigolion o’r gymuned LGBTQ+ yn teimlo bod
croeso iddynt a’u bod yn rhan o bêl-droed ledled Cymru, ac edrychwn ymlaen at ddatblygu ein gwaith
gyda’n partneriaid yn Stonewall Cymru i wella hyn.
Byddwch ddiogel. Diolch,
Jonathan Ford.
Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Bêl-droed Cymru
